10.6.10

Hallo! Ich finde Grünstatdt fantastisch! Yn anffodus, dydy'r blog ddim yn gyfle i mi ymarfer fy Almaeneg, yn hytrach ymarfer teipio fel malwen gyda'r 'y' mewn lle gwahanol! Sori Frau James. Dyma ni wedi cyrraedd yn saff ac yn mwynhau'r heulwen chwilboeth! Mae'r plant ar eu gorau ac yn ddisgyblion cwrtais sy'n biafio...hyd yn hyn! Roedd y winllan yn ddiddorol heddiw o dan arweiniad hwylus Herr Siebert; gwr a ddysgodd llawer i ni am y grefft a'r traddodiad o gadw gwinllan. Roedd y winllan wedi bod yn ei deulu ers 1624! Does dim osgoi hanes diddorol. Dwi nawr yn edrych ymlaen at bizza a phrofi cerddoriaeth bop Almaenig heno yn y disgo.

Hwyl am y tro!

No comments: