4.10.07

Cyrraedd adref / Arriving home

Mae yna bosibilrwydd cryf y byddwn ni gartref yn gynt na 1:30pm ddydd Sadwrn. Byddwn ni nawr yn gadael Grünstadt am 6pm nos Wener, yn lle 8pm fel o'n i'n meddwl. Os cewn ni fferi cynharach, byddwn ni nôl yn gynt. Mae popeth yn dibynnu ar y fferi. Os caf unrhyw wybodaeth cyn gadael fory, fe roddaf yr wybodaeth yma'n syth.

There is a strong possibility that we'll be back before 1:30pm on Saturday. We are now leaving Grünstadt at 6pm on Friday night instead of 8pm as I had previously thought. If we manage to catch an earlier ferry, we'll be back sooner. Everything depends on the ferry. If I get any information before our departure tomorrow, I will post it here straight away.

1 comment:

Anonymous said...

Annwyl Miss James
Rydym wedi mwynhau'r blog shwt gymaint! Mae wedi bod yn ffab darllen y negeseuon i gyd a gweld y lluniau. Rydych chi wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn marcio holl waith y plant. Gobeithio bod yr athrawon eraill wedi bod yn gwneud popeth arall i chi! Mae'n hyfryd clywed oddi wrth y plant, a gwybod eu bod nhw wedi mwynhau. Rydym wedi derbyn 2 e-bost hyfryd gan rieni Sarah, ffrind Nia. Maen nhw'n dweud eu bod nhw am i Nia aros am wythnos arall - mae'n amlwg nad ydynt yn ei nabod hi'n dda iawn, ydyn nhw?! Maen nhw wedi bod yn garedig iawn i Nia, wedi gwneud bwyd iddi hi i gymryd am y daith. Dwi wedi ffindio allan nad yw "sehr lustig" yn meddwl "drwg iawn" Phew - diolch byth am hynny, a diolch hefyd i Miss Bedwyr am adael i Nia gysgu arni hi (?!) pan oedd bola tost ganddi! Pob lwc am y daith hir gartre - a diolch eto i chi gyd am eich holl waith caled, heb sôn am eich sgiliau TGCh! Ydych chi'n cael wythnos bant o'r ysgol yr wythnos nesa i ddod dros eich "gwyliau"?
Hwyl am y tro
Marian Sweet (Mam Nia)