4.10.07

Auf Wiedersehen Grünstadt und Hallo Barri!

Wel, anodd credu bod yr wythnos bron â dod i ben. Wedi darllen eich hanesion bob nos ac wedi mwynhau gweld y lluniau yn fawr iawn. Nifer yn yr ysgol yn canmol y blog - toll gemacht! Hoffwn wybod pwy sydd wedi bod wrthi yn dysgu Almaeneg i Miss Bedwyr - mae wedi gwella llawer!! Mwynhewch y diwrnod olaf ac edrychwn mlaen i'ch gweld Dydd Gwener. Gute Reise!
Mrs Thomas