6.9.07

Cyfarfod ar gyfer Rhieni * Meeting for Parents

Pan fyddwch yn casglu’ch plentyn o’r ysgol ar y 18fed o Fedi am 5:30pm, bydd cyfarfod byr (tua hanner awr) ar gyfer holl rieni’r daith. Byddwn yn amlinellu’r holl drefniadau, gan gynnwys teithio, ymweliadau dyddiol a rhifau cyswllt. Bydd cyfle i chi holi unrhyw gwestiynau, a bydd llyfryn gwybodaeth i rieni’n cael ei ddosbarthu yn y cyfarfod. Yn ogystal, byddwn yn dosbarthu ffurflenni iechyd ac argyfwng i chi eu llenwi. Byddwn i’n ddiolchgar iawn petaech yn gwneud pob ymdrech i fod yn y cyfarfod pwysig hwn.

A fyddech garediced â dod â phasbort a Cherdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (sydd wedi disodli’r hen E111) eich plentyn i’r cyfarfod gyda chi. Byddwn ni angen llungopïo’r rhain, yna byddwn yn eu cadw yn sêff yr ysgol tan y daith. Os nad oes cerdyn gan eich plentyn, gallwch drefnu cael un mewn tua 10 diwrnod ar 0845 606 2030. Yn ogystal, gellir eu harchebu ar-lein: http://www.dh.gov.uk/en/Policyandguidance/Healthadvicefortravellers/Cymraeg/Welshgettingmedicaltreatment/WelshEEAAndSwitzerland/index.htm


When you collect your child from school at 5:30pm on 18 September, there will be a short meeting (approx 30 minutes) for all parents. In this important meeting we will outline all the arrangements, including travelling, daily visits and contact numbers. You will be able to ask questions, and an information booklet will be distributed to all parents. You will also receive medical and emergency forms to fill in during the meeting. Please make every effort to attend this vital meeting.

Please bring your child's passport and European Health Insurance Card (the new version of the E111) to the meeting. These will need to be copied by the school, and then they will be kept in the safe until we leave for Germany. If your child does not have a card, they can be obtained within some 10 days from 0845 606 2030. You can also order them on-line: http://www.dh.gov.uk/en/Policyandguidance/Healthadvicefortravellers/Gettingtreatmentaroundtheworld/EEAandSwitzerland/DH_4114795

No comments: